Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Cwricwlwm

        

Ein nod yn Ysgol Caer Elen yw cynnig profiadau dysgu ac addysgu o'r radd flaenaf mewn amgylchedd ysgogol a chefnogol. Mae'r ysgol yn hyrwyddo'r gwerthoedd o barch a gofal ac mae disgwyliadau a safonau uchel yn greiddiol i holl agweddau o fywyd yr ysgol. Ein nod yw darparu addysg a chwricwlwm a fydd yn paratoi'r disgyblion ar gyfer byd gwaith ac i fod yn ddinasyddion cyfrifol a fydd yn cyfrannu'n hyderus at fywyd economaidd, digidol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a'r Byd yn yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Ein dyhead ar gyfer pob plentyn yw eu bod yn datblygu i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywydau a gwaith
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.  

YSGOL POB OED

Fel Ysgol 3 i 16, mae’r Ysgol yn manteisio ar y cyfle i sicrhau cydweithio clos rhwng athrawon o bob cyfnod. Trwy sefydlu Cymunedau Dysgu Proffesiynol traws Ysgol, caiff yr athrawon y cyfle i gydweithio, cydgynllunio, rhannu arbenigedd ac arfer da ar draws y continwwm oed. Golyga hyn bod cysondeb yn y dull addysgeg a chymhwysir yn yr Ysgol.