Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd

Mae datblygiad mathemateg wedi mynd law yn llaw â datblygiad gwareiddiad ers y cychwyn cyntaf. Mae’n ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd, megis pensaernïaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, arian a pheirianneg. Er bod mathemateg ynddi hi ei hun, ac wrth gael ei chymhwyso, yn greadigol ac yn hardd, mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn meysydd dysgu a phroï¬Âad eraill.

Yn ychwanegol at hyn, mae rhifedd, sef defnyddio mathemateg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, yn chwarae rhan allweddol yn ein bywydau bob-dydd, ac yng nghyflwr economaidd y genedl. Mae’n hanfodol felly fod proï¬Âadau mathemateg a rhifedd mor gyffrous, diddorol a hygyrch â phosibl i ddysgwyr, a bod y profiadau hyn yn fodd i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu gwydnwch mathemategol.

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd wedi’i fynegi mewn pedwar datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.