Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Anelwn at gynnig addysg gynhwysol o safon i bob disgybl yn ogystal â chyfleoedd addysgol cyfartal i bob unigolyn.

Bydd gan nifer o blant, ar ryw gyfnod yn eu gyrfaoedd ysgol, anghenion dysgu ychwanegol o ryw ddisgrifiad. Mae'r ysgol yn ymdrechu i adnabod y gofynion yma, ac yn llunio rhaglen berthnasol mewn cysylltiad â’r rhieni/gwarchodwyr ar gyfer amgylchiadau arbennig y plentyn. Mae aelod o’r staff wedi ei benodi i fonitro ac i asesu anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol. Mae'r asesu yn gymorth i adnabod anghenion dysgu pob plentyn. 

Os oes anghenion dysgu ychwanegol gan blentyn byddwn yn trafod hyn gyda’r rhieni/gwarchodwyr. Mae'r ysgol yn darparu rhaglen i’r plentyn a all fod yn gyfnodau o sylw unigol, neu grwp.

Mae copi o’r Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gael o swyddfa’r ysgol. Nodir anawsterau disgyblion trwy adroddiadau manwl a derbynir y wybodaeth hyn o ysgolion blaenorol ar gyfer disgyblion sydd yn trosglwyddo i Ysgol Caer Elen. 

Mae gan Ysgol Caer Elen adnoddau pwrpasol a chyfarpar addas i ddysgu disgyblion mewn grwpiau bach ac i roi sylw i’r unigolion. Yn yr un modd bydd disgyblion galluog iawn yn cael eu hadnabod a’u hymestyn. Mae gan yr ysgol berthnasoedd arbennig o dda rhwng yr asiantaethau allanol sef y Seicolegydd Addysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac ati.

Ein Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Caer Elen yw Mrs Jane Davies.