Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Prydau Ysgol am Ddim

Ydych chi’n hawlio'r holl help posib gyda chostau ysgol?

Yn Ysgol Caer Elen, rydym am sicrhau bod pob plentyn yn cael yr help sydd ei angen arnynt. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig help gyda Chinio Ysgol am Ddim a Hanfodion Ysgol fel gwisg ysgol, cit ac offer.

Sicrhewch eich bod wedi gwirio cymhwysedd eich plentyn i gael cinio ysgol am ddim. Os yw eich plentyn yn gymwys am Ginio Ysgol Am Ddim neu’n derbyn Prydau Ysgol am ddim i hollblant Ysgolion Cynradd, gall mwy o help fod ar gael! Os yn gymwys, gallech gael hyd at £200 y plentyn ar gyfer Hanfodion Ysgol, a chyllid ychwanegol i’n hysgol.

Ewch i: https://www.llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol 

 

Trosolwg - Cyngor Sir Benfro

O'r 30ain o Fawrth 2026, ni fydd Cyngor Sir Penfro yn derbyn copïau caled o'r ffurflen gais am Brydau Ysgol Am Ddim.

Os nad yw rhiant/gofalwr yn gallu llenwi ffurflen gais ar-lein, gallwch ffonio canolfan gyswllt y Cyngor Sir a bydd un o'r tîm Prydau Ysgol Am Ddim yn llenwi'r ffurflen dros y ffôn - 01437 764551.