Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau

Gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.

Mae’r Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd mae ganddyn nhw eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Yn ogystal, gall dysgwyr gael eu cyflwyno i ddisgyblaethau cysylltiedig eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle bydd hynny’n briodol.

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn pum datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae’r Dyniaethau yn ganolog i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd