Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein byd modern. Mae datblygiadau yn y meysydd hyn wedi bod yn gyfrifol am arwain newid yn ein cymdeithas erioed. Mae’r rhain yn sail i arloesi ac yn effeithio ar fywyd pob un, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol. Felly bydd Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gynyddol berthnasol yn y cyfleoedd y bydd ein hieuenctid ni yn eu profi, a’r dewisiadau y byddan nhw’n eu gwneud mewn bywyd.

Mae mynediad parod i gasgliad enfawr o ddata yn gofyn bod dysgwyr yn gallu asesu mewnbynau’n feirniadol, deall sail gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno fel ffaith, a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar eu hymddygiad a’u gwerthoedd eu hunain. Mae angen iddyn nhw feithrin y gallu i ofyn, yn ystyrlon, y cwestiwn: ‘Ydy’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylen ni?’

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn chwe datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.