Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Drafft i Gymru - Fideo Digwyddiad Ymgynghori Rhanbarthol 

           

Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru - beth sy'n digwydd? 

           

 Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Dyroddir y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ("y Ddeddf"). Mae'r Ddeddf, ynghyd â'r Cod hwn a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf, yn darparu'r system statudol ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc. Mae'n rhoi'r lle canolog i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr yn y broses o gynllunio'r gefnogaeth sy’n ofynnol i'w galluogi i ddysgu'n effeithiol a chyflawni eu potensial.

Rhaglen trawsnewid system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 

Hoffai Llywodraeth Cymru drawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

I wneud hyn, mae'r Llywodraeth wedi datblygu rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a fydd yn gweddnewid y systemau gwahanol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion ac ar gyfer anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach, er mwyn creu system unedig i gefnogi dysgwyr ADY o 0 hyd at 25 oed.

Bydd y system, ar ei newydd wedd, yn:

sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn cyflawni ei lawn botensial

gwella’r broses o gynllunio a chyflwyno cymorth i ddysgwyr o 0 hyd at 25 oed sydd ag ADY, gan roi anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r dysgwyr wrth wraidd y broses

canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy’n cael eu monitro a’u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni’r deilliannau a ddymunir.

Dyma ganllaw i rieni a theuluoedd yngylch sut y bydd plant yn symud i'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022: 

system anghenion dysgu ychwanegol ady canllaw i rieni.pdf